News
Canolfan Arddio y Flwyddyn 2019 / Garden Centre of the Year 2019
Annwyl gyd-weithwyr, gwsmeriaid a ffrindiau,
Hoffwn rannu gyda chi ychydig o newyddion anhygoel yr ydym wedi’i dderbyn yn ystod y 24 awr ddiwethaf.
Yr wythnos hon buom mewn seremoni wobrwyo flynyddol Cymdeithas y Canolfannau Garddio. Dros y blynyddoedd ‘rydym wedi ennill amryw o wobrau yn y gogledd-orllewin yn ogystal ag yn Genedlaethol yn y Bwyty a ‘rydym yn dathlu’r rhain gyda’n tîm a’n cwsmeriaid
Eleni, fodd bynnag, er mawr syndod i ni, cyhoeddwyd ein bod wedi cyflawni’r wobr uchaf yng ngwobrau’r Canolfannau Garddio a’n henwi yn:
⭐ Ganolfan Arddio Orau yn y Deyrnas Unedig 2019 ⭐
Rydym yn hynod ddiolchgar i’n cwsmeriaid a’r gymuned leol. Ni fyddai dim o hyn wedi bod yn bosibl heb eich cefnogaeth chi.
Hoffwn hefyd ddiolch yn bersonol i’n holl dîm gweithgar sydd wedi gwneud hyn yn bosibl trwy eu hangerdd a’u creadigrwydd. Mae ein tîm bellach yn cynnwys dros gant o bobl a maent yn llawn talent, cynhesrwydd ac arbenigedd. Ni allwn ddiolch digon iddynt am eu holl waith caled a’u hymroddiad.
Llongyfarchiadau Tîm Fron Goch! ‘Rwy’n llawn balchder,
Justin Williams.
Dear colleagues, customers and friends,
I’d like to share with you some incredible news that we have received in the last 24 hours.
This week we attended the Garden Centre Association‘s annual awards ceremony. Over the years we have achieved various awards in the north-west as well as nationally within the Restaurant and we celebrate these with our team and our customers.
This year however, much to our astonishment, it was announced that we had achieved the highest acclaimed award within the Garden Centre awards and named:
⭐ Best Garden Centre in the UK 2019 ⭐
We are incredibly grateful to our customers and the local community. None of this would have been possible without your support.
I’d also like to personally thank all our hard working team who have made this possible through their passion and creativity. Our team is now over one hundred strong and full of talent, warmth and expertise. We cannot thank them enough for all their hard work and dedication.
Congratulations Team Fron Goch! I am bursting with pride,
Justin Williams.
Leave a reply